Eich Rhent. Eich Barn.
Hydref 1, 2026Rydyn ni eisiau clywed eich barn chi ar:
- gyfraddau rhent y Cyngor ac a ydych yn credu eu bod yn werth da am arian,
- pennu rhenti o fis Ebrill 2027, a
- newidiadau bach posibl i’r ffordd y mae rhenti yn cael eu cyfrifo ar gyfer tai a fflatiau, er mwyn helpu i wneud rhenti yn decach.
Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r swm y gellir cynyddu cyfraddau rhent cynghorau. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynglŷn â faint fydd hyn o fis Ebrill nesaf.
Dywedodd y rhan fwyaf o denantiaid a ymatebodd i’r arolwg rhent y llynedd fod rhenti’r cyngor yn werth da am arian. Fe wnaethant hefyd gefnogi ein cynlluniau i barhau i wella ac addasu ein heiddo presennol, yn ogystal ag adeiladu cartrefi newydd o ansawdd da.
Gan ystyried hyn, gwnaethon ni gynnig gosod ein rhenti ar y swm llawn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ganiatáu, cyn belled â bod y rhenti hyn yn parhau’n fforddiadwy yn unol ag asesiad Joseph Rowntree.
Dweud eich dweud
Cwblhewch ein harolwg rhent Cyngor.
Mae’r arolwg hwn yn cau ar 25 Hydref 2026.