Gwych Garddio
Ebrill 24, 2026Mae Cystadleuaeth Arddio Flynyddol Tenantiaid Ynghyd, Gwych Garddio, yn ôl!
Ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r ardd flodeuog orau yng Nghaerdydd? Ydych chi’n denant neu’n lesddeiliad Tai Cyngor Caerdydd? Dyma’ch cyfle i ddisgleirio!
Rydym yn dathlu gerddi o bob siâp a maint gyda phum categori cystadlu:
- Gardd Flaen
- Gardd Gefn
- Gardd Gymunedol
- Gardd Gydweithredol
- Llain Lysiau
Mae gwobrau ar gael ar gyfer y safleoedd 1af, 2il a 3ydd ym mhob categori, a gwobr ariannol fawr i’r enillydd cyffredinol!
Diddordeb gennych? Defnyddiwch y ddolen (ffurflen gwych garddio) neu’r cod QR ar ein poster i lenwi cais, neu gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Ffôn: 029 2087 1777
E-bost: Tenantiaid.Ynghyd@caerdydd.gov.uk
Ar ôl gwneud cais, bydd swyddog yn ymweld â’ch gardd ar amser a gytunir rhwng nawr a’r dyddiad cau, sef 1 Hydref, i gadarnhau eich lle yn y gystadleuaeth ac i dynnu lluniau.
Rhowch wybod i ni’r amser gorau i ffonio, a byddwn yn trefnu apwyntiad!
Rydym yn edrych ymlaen at weld eich gerddi blodeuol gwych!