Holi Caerdydd Arolwg Trigolion 2026 Rhowch gynnig ar ein Raffl i ENNILL gwybrau gwych!

Holi Caerdydd 2026

Mae Holi Caerdydd yn arolwg blynyddol sy’n rhoi cyfle i bobl sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd a’r rhai sy’n ymweld â’r ddinas rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus.

Mae’n ein helpu i:

  • ddeall yn well sut brofiad mae pobl yn ei gael o’r ddinas ac o’n gwasanaethau cyhoeddus,
  • deall beth sy’n bwysig i chi ac i’ch cymuned leol, a
  • gwneud newidiadau a gwella gwasanaethau cyhoeddus ein dinas.

Rydym eisiau clywed oddi wrth gymaint o bobl â phosibl, ac yn croesawu ymatebion gan bobl o bob oed a chefndir o bob rhan o’r ddinas.

Trwy gwblhau’r arolwg, gallwch hefyd gymryd rhan mewn raffl wobrau i ennill:

  • 1 o 10 o dalebau Caerdydd AM BYTH i’w gwario mewn nifer o siopau’r stryd fawr,
  • 2 docyn ar gyfer tymor 2026 i 2027 Cardiff Devils,
  • tocyn teulu i sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf.

Holi Caerdydd 2026 – Cyngor Caerdydd