Ni yw’ch tîm Cynnwys Tenantiaid ac rydyn ni yma i’ch helpu!
Os hoffech unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad cysylltwch â ni.
Yr hyn a wnawn
Rydym yn gweithio ar amrywiaeth o bynciau gyda thenantiaid, gan gynnwys;
- Trefnu ymgynghoriadau mewn lleoliadau amrywiol ledled y ddinas i sicrhau y gall cyngor dinas Caerdydd gyflawni’r newidiadau mae tenantiaid am eu gweld.
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer datrys problemau ac ymgysylltu gyda thenantiaid.
- Arloesi gyda dulliau cyfathrebu newydd rhwng Cyngor Caerdydd a thenantiaid.
- Helpu tenantiaid i ddeall gwahanol agweddau ar wasanaethau’r cyngor.
- Cofnodi barn werthfawr tenantiaid a defnyddio’r farn honno i wella gwasanaethau’r cyngor.
- Helpu tenantiaid gyda materion dydd i ddydd, megis chwilio am swyddi neu roi gwybod iddynt am ddigwyddiadau’r cyngor.
- Dod â chymunedau ynghyd drwy ddigwyddiadau megis boreau coffi, digwyddiadau tymhorol, tripiau dysgu gyda’r henoed a gweithdai addysg.