Cylchlythyr Tenantiaid

Mae’r Cylchlythyr Tenantiaid yn cael ei greu gennym ni yn y cyngor ar eich cyfer chi: y tenantiaid!

Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau diweddaraf y cyngor yn ogystal â digwyddiadau yn eich cymunedau lleol. Gallwch ennill gwobrau ariannol, cael y newyddion lleol diweddaraf a hyd yn oed y newidiadau diweddaraf i bolisïau tai Cyngor Caerdydd. Dewch nôl i wirio am y rhifyn diweddaraf a gweld pa gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal chi!

Os hoffech gael eich cynnwys yn y cylchlythyr neu os oes gennych awgrym ar gyfer erthygl, cysylltwch â’n swyddfa ar 02920 871 777 neu anfonwch e-bost aton ni er mwyn cael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.

Os hoffech ddad-danysgrifio cysylltwch â ni neu atebwch yr e-bost gyda’r geiriau ‘dad-danysgrifio’ a chaiff eich cyfeiriad e-bost ei dynnu o’r rhestr bost.

Cofrestru’ch e-bost

    Lawrlwytho rhifynnau blaenorol

    Rhannwch y dudalen hon