Gwasanaethau ar gyfer Tenantiaid y Cyngor
Mawrth 26, 2020
Atgyweiriadau
Er mwyn sicrhau gwasanaeth i’r tenantiaid sydd â’r angen mwyaf, dim ond gwaith atgyweirio brys fydd yn cael ei wneud, a dylai tenantiaid gysylltu â ni ynghylch atgyweiriad ddim ond os yw’n argyfwng. Ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys, dylai tenantiaid gysylltu â ni yn ystod yr wythnos yn dechrau 15 Mehefin ymlaen, pan ragwelir y bydd y gwasanaeth yn gallu ymateb i’r atgyweiriadau hyn unwaith eto.
Caiff apwyntiadau presennol ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys eu hatal tan ar ôl 15 Mehefin.
Trosglwyddiadau a Chyfnewidiadau
Ni fydd unrhyw gyfnewid pellach yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a dim ond trosglwyddiadau brys a fydd yn digwydd.
Help a Chyngor
Taliadau Rhent
Dylai tenantiaid sy’n cael problemau gyda thaliadau rhent ar yr adeg anodd hon gysylltu i drafod.
Materion yn ymwneud â Thenantiaeth ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Dim ond mewn achosion o frys mawr y bydd ymweliadau cartref yn digwydd. Bydd materion yn cael eu datrys dros y ffôn cyn belled ag y bo modd.
Glanhau Ardaloedd Cymunedol Fflatiau
Bydd y gwaith rheolaidd o lanhau fflatiau tyrau isel yn cael ei atal a gallai casgliadau gwastraff swmpus gael eu hoedi.
Cynnwys Tenantiaid
Mae pob cyfarfod sydd wedi ei drefnu gan y Cyngor wedi ei atal. Cynghorwn yn gryf y dylai pob grŵp atal eu cyfarfodydd.
Symud Cartref
Digartrefedd