ALLWEDDAU FFOB MYNEDIAD DRWY’R DRWS CYMUNEDOL


1.  Mae tenantiaid a lesddeiliaid y cyngor sy’n byw yn ein blociau o fflatiau yn cael allweddau ffob electronig i fynd i mewn i’w heiddo drwy’r drysau mynediad cymunedol.
Er mwyn gwella’n barhaus a sicrhau ein bod yn cynnal diogelwch ein preswylydd, gwnaed newidiadau i’r ffordd rydym yn dyrannu, cofnodi a monitro’r ffordd y caiff allweddau ffob eu cyhoeddi yn y dyfodol.
Caiff tenantiaid newydd allweddau ffob ar gyfer holl aelodau’r teulu sydd dros 12 oed ac sy’n byw yn yr eiddo ar ddechrau’r denentiaeth.

Ceisiadau am Allweddau Ffob Gellir gofyn am allweddau ffob yn bersonol, yn unrhyw un o’n hybiau, ar-lein neu dros y ffôn. Gallwch ffonio ein Llinell Gyngor ar 02920 871071 neu drwy’r Cyfrif Tai Ar-lein.
Ffobiau coll, wedi’u Dwyn neu wedi’u Difrodi Colli cewch ffob newydd am dâl o £13 yr un. Gellir talu dros y ffôn. I breswylwyr nad ydynt yn gallu talu gyda cherdyn debyd neu gredyd, gellir talu ag arian parod mewn unrhyw Hyb.

Wedi eu dwyn gallwch gael ffob am ddim os cyflwynwch rif Cyfeirnod Trosedd mewn unrhyw Hyb.
Wedi eu difrodi cewch ffob newydd yn rhad ac am ddim mewn unrhyw Hyb. Cewch ffob newydd yn gyfnewid am yr un sydd wedi’i ddifrodi neu wedi torri.

Rhannwch y dudalen hon