Blwyddyn Newydd Dda


Tenant logo

Helo bawb! Gobeithio y cawsoch flwyddyn newydd hapus a’ch bod yn cadw’n ddiogel yn ystod y cyfyngiadau Covid newydd hyn. Mae gennym newyddion gwych i chi; mae Cyfranogiad Tenantiaid yn ôl ar gyfer 2021!
Cofiwch ein bod yma i helpu gydag unrhyw ymholiadau sy’n gysylltiedig â thai cyngor ac rydym wrth ein bodd yn clywed beth sy’n digwydd yn eich cymunedau!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help llaw arnoch, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn Cyfranogiad.Tenantiaid@Caerdydd.gov.uk neu anfon neges atom ar Facebook.

Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud? Gadewch i ni wybod!

Rhannwch y dudalen hon