tenants on a summer trip to barry island

CYNHWYSIANT CYMUNEDOL

Ydych chi’n gwybod bod amrywiaeth o weithgareddau yn eich cymuned sy’n rhad ac am ddim? Mae ein Swyddogion Cynhwysiant yn cynnal amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol a gweithgareddau sy’n seiliedig ar hobïau mewn Hybiau ledled Caerdydd.

Mae’r grwpiau’n hygyrch, yn hwyl, yn gyfeillgar ac yn edrych bob amser i groesawu aelodau newydd, felly beth am ddod draw i roi cynnig ar rywbeth newydd?

I ymuno, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod i’r gweithgaredd ar y diwrnod, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth gallwch siarad â ni ar 029 2087 1071 (opsiwn 3) neu anfon e-bost atom yn timlles@caerdydd.gov.uk

Gallwch weld ein rhaglen lawn o weithgareddau yn www.hybiaucaerdydd. co.uk ac archwilio’r dudalen digwyddiadau.

Gobeithio y gwelwn ni chi cyn bo hir!