Arolwg Cyflwr ac Atgyweiriadau Tai’r Cyngor


Mae Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion Cyngor Caerdydd eisiau clywed eich barn ar wasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw’r Cyngor.

Mae Pwyllgorau Craffu Cyngor Caerdydd ar wahân i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau. Eu nod yw ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus a galluogi llais a phryderon y cyhoedd i gael eu clywed.

Drwy gwblhau arolwg byr, byddwch yn rhoi cipolwg beirniadol o effeithlonrwydd gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw tai’r Cyngor. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y Cyngor yn darparu’r gwasanaeth gorau i denantiaid y Cyngor ac yn helpu i nodi meysydd posibl i’w gwella.

Dyma’ch cyfle, i ddweud eich dweud ar eich cartref.

Mae’r arolwg hwn yn gyflym ac yn hawdd ei gwblhau ar eich ffôn clyfar, eich dyfais lechen neu eich gliniadur ac mae ar gael yma. Mae copïau caled o’r arolwg hefyd ar gael ym mhob un o hybiau’r Cyngor.

Ond byddwch yn gyflym, gan mai dim ond tan ddydd Gwener 28 Ionawr sydd gennych.

Bydd aelodau o’r Pwyllgor yn cyfarfod â Gweithrediaeth y Cyngor i drafod yr eitem hon ac i ddadansoddi’r ymatebion i’r arolwg ddydd Mercher 9 Mawrth am 4:30pm. Bydd y cyfarfod yn cael ei weddarlledu’n fyw i’r cyhoedd ei wylio yma.

Diolch am roi o’ch amser i gyflwyno adborth mor bwysig.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, anfonwch e-bost i:

barngraffu@caerdydd.gov.uk.

Rhannwch y dudalen hon