Arolwg o Farn Tenantiaid am Safon Ansawdd Tai Cymru


Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), y safon cenedlaethol ar gyfer cartrefi sy’n cael eu gosod i denantiaid tai cymdeithasol. Fel rhan o’r gwaith o werthuso’r safon hwn, mae’r arolwg yn edrych ar agweddau tenantiaid tai cymdeithasol, ac fe fydd eu sylwadau yn cyfrannu at SATC yn y dyfodol ar ôl 2020.

Mae gwahoddiad i chi gymryd rhan mewn arolwg byr ar-lein i roi eich profiadau o SATC fel tenant yn sector tai cymdeithasol Cymru. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 15 munud.

Mae’ch cyfraniad yn gwbl wirfoddol. Mae’ch sylwadau a’ch profiadau yn bwysig i’n helpu i lunio polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Bydd eich atebion yn ddienw.

Os hoffech gymryd rhan, dilynwch y ddolen i’r arolwg:

https://files.smartsurvey.io/2/0/X7Z1ACVW/Privacy_Notice_(Eng)__WHQS_Tenant_Survey_FINAL.pdf

Dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r hysbysiad preifatrwydd a fydd yn nodi sut y bydd eich data yn cael eu ddefnyddio:

https://files.smartsurvey.io/2/0/T1KFJKJC/Privacy_Notice_(Cymraeg)__WHQS_Tenant_Survey_FINAL.pdf

Bydd yr arolwg ar agor hyd at 14 Hydref 2020.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â Katy Addison (katy.addison@llyw.cymru).

Rhannwch y dudalen hon