Amser Cystadlu!


Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod ansicr i lawer ohonom ac ni allwn argymell digon y pwysigrwydd o aros adref ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod pawb mor ddiogel â phosibl.
I wneud bywyd ychydig yn haws, bydd Cyfranogiad Tenantiaid yn cynnal cyfres o gystadlaethau i blant ac oedolion gyda thalebau siopa yn wobrau!

Ar gyfer ein cystadleuaeth gyntaf, rydym yn mynd i gymryd rhan yn yr ymgyrch Ar Drywydd yr Enfys #ArosAdref. Mae plant ar hyd a lled y wlad wedi bod yn dangos eu cefnogaeth drwy dynnu lluniau o’r enfys a’u rhoi ar ffenestri ystafelloedd blaen eu cartrefi i bawb eu gweld.

I gystadlu paentiwch enfys, tynnwch lun ohoni ac e-bostiwch y llun i cyfranogiadtenantiaid@caerdydd.gov.uk neu anfonwch y llun atom drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Caiff pob cynnig ei roi mewn raffl gyda 3 o dalebau siopa gwerth £10 i’w hennill!

Y dyddiad cau fydd Ebrill 1, pan fyddwn yn cynnal cystadleuaeth arall i chi gymryd rhan ynddi.
Cofiwch, arhoswch yn saff ac arhoswch adref!

Rhannwch y dudalen hon