Gadewch inni gyflwyno ein app Caerdydd Gov!


Image of the Cardiff Gov app
Ymunwch â miloedd o drigolion sydd wedi lawrlwytho’r ap er mwyn cael ffordd well o gysylltu â gwasanaethau’r Cyngor.
Gydag ap ‘Caerdydd Gov’ mae eich adroddiadau’n cael eu cyfeirio at y tîm iawn yn awtomataidd gan ein galluogi i’w datrys yn y modd cyflymaf posibl.
Dyma rai nodweddion allweddol:
  • Gwirio dyddiadau eich casgliadau ailgylchu a gwastraff a gosod negeseuon atgoffa.
  • Gwirio eich cyfrif Treth Gyngor.
  • Cofrestru ar gyfer biliau electronig y Dreth Gyngor a hysbysiadau.
  • Rhoi gwybod am broblem glanhau strydoedd megis taflu sbwriel neu faw cŵn.​
  • Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon yn y fan a’r lle.
  • Rhoi gwybod am broblem ar y ffordd neu ar balmant.​

Byddwn ni’n ychwanegu gwasanaethau newydd a dulliau defnyddio newydd yn rheolaidd yn y dyfodol.

I lawrlwytho’r app, ewch i’r Google Play Store neu siop App Apple a chwiliwch ‘Cardiff Gov’.
Os ydych chi wedi lawrlwytho app ​​Caerdydd Gov ac a hoffech roi rhywfaint o adborth, llenwch y ffurflen adborth am app Caerdydd Gov ​ar ein wefan neu drwy’r app ei hun.
Rhannwch y dudalen hon